Lleoliad:
Fideogynhadledd drwy Zoom
Dyddiad: Dydd Llun, 25 Ebrill 2022
Amser:
13.30 -
14.55
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/12808
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
Huw Irranca-Davies AS (Cadeirydd) Rhys ab Owen AS Alun Davies AS Peter Fox AS |
Tystion: |
|
Staff y Pwyllgor: |
P Gareth Williams (Clerc) Gerallt Roberts (Ail Glerc) Sarah Sargent (Ail Glerc) Claire Fiddes (Dirprwy Glerc) Gareth Howells (Cynghorydd Cyfreithiol) Kate Rabaiotti (Cynghorydd Cyfreithiol) |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
Ni chafwyd ymddiheuriadau na dirprwyon.
2 Offerynnau nad ydynt yn cynnwys unrhyw faterion i’w codi o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3
Offerynnau’r Weithdrefn Penderfyniad Gwneud Negyddol
2.1 SL(6)184 – Rheoliadau Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (Diwygiadau Canlyniadol a Darpariaeth Drosiannol) (Prif Weithredwyr) 2022
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ac roedd yn fodlon arno.
2.2 SL(6)189 - Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr Ôl-raddedig) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2022
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ac roedd yn fodlon arno.
2.3 SL(6)192 - Gorchymyn Llywodraeth Leol (Awdurdodau Perthnasol) (Pŵer i Fasnachu) (Cymru) 2022
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ac roedd yn fodlon arno.
2.4 SL(6)193 - Rheoliadau’r Pŵer Cymhwysedd Cyffredinol (Diben Masnachol) (Amodau) (Cymru) (Diwygio) 2022
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ac roedd yn fodlon arno.
Offerynnau’r Weithdrefn Penderfyniad Cadarnhaol
2.5 SL(6)187 - Rheoliadau Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (Diwygiadau Canlyniadol) (Rhannu Swydd a Chynorthwywyr Gweithrediaeth) 2022
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ac roedd yn fodlon arno.
3 Offerynnau sy'n cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3
Offerynnau’r Weithdrefn Penderfyniad Gwneud Negyddol
3.1 SL(6)181 - Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol, Atebolrwydd Gweithredwyr a Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd i Deithwyr etc.) (Cymru) (Dirymu) 2022
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwyntiau adrodd a nodwyd.
3.2 SL(6)183 - Rheoliadau Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân (Cymru) (Diwygio) 2022
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ynghyd ag ymateb Llywodraeth Cymru, a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwyntiau adrodd a nodwyd.
3.3 SL(6)188 - Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd Ymwelwyr Tramor) (Diwygio) (Rhif 2) (Cymru) 2022
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwynt adrodd a nodwyd.
3.4 SL(6)195 - Rheoliadau Symud Anifeiliaid Anwes yn Anfasnachol (Diwygio) (Cymru) 2022
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwyntiau adrodd a nodwyd.
Offerynnau’r Weithdrefn Penderfyniad Cadarnhaol
3.5 SL(6)194 - Rheoliadau Dyrannu Tai a Digartrefedd (Cymhwystra) (Cymru) (Diwygio) 2022
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ynghyd ag ymateb Llywodraeth Cymru, a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwyntiau adrodd a nodwyd.
Offeryn y Weithdrefn Penderfyniad Gwneud Cadarnhaol
3.6 SL(6)196 - Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 9) 2022
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwyntiau adrodd a nodwyd.
4 Offerynnau sy'n cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3 - trafodwyd yn flaenorol
4.1 SL(6)130 – Rheoliadau Rhentu Cartrefi (Contractau Safonol â Chymorth) (Darpariaethau Atodol) (Cymru) 2022
Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog Newid Hinsawdd.
4.2 SL(6)131 – Rheoliadau Rhentu Cartrefi (Darpariaethau Atodol) (Cymru) 2022
Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog Newid Hinsawdd.
5 Fframweithiau cyffredin
5.1 Datganiad ysgrifenedig gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Fframweithiau Cyffredin - Crynodeb o’r Cynnydd Diweddar
Nododd y Pwyllgor y datganiad ysgrifenedig gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad.
5.2 Gohebiaeth gan y Pwyllgor Craffu ar Fframweithiau Cyffredin at yr Ysgrifennydd Gwladol dros yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig: Fframwaith Cyffredin dros dro ar Iechyd planhigion
Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Pwyllgor Craffu ar Fframweithiau Cyffredin at yr Ysgrifennydd Gwladol dros yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig.
5.3 Gohebiaeth gan y Pwyllgor Craffu ar Fframweithiau Cyffredin at yr Ysgrifennydd Gwladol dros yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig: Fframwaith Cyffredin dros dro ar Gwrteithwyr
Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Pwyllgor Craffu ar Fframweithiau Cyffredin at yr Ysgrifennydd Gwladol dros yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig.
6 Cytundeb Cysylltiadau Rhyngsefydliadol
6.1 Gohebiaeth gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd: Cyfarfod Grŵp Rhyngweinidogol yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig
Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd.
6.2 Gohebiaeth gan Gadeirydd y Pwyllgor Gweinyddiaeth Gyhoeddus a Materion Cyfansoddiadol at yr Ysgrifennydd Gwladol dros Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau a'r Gweinidog Cysylltiadau Rhynglywodraethol: Tryloywder cyfarfodydd cysylltiadau rhynglywodraethol
Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Gweinyddiaeth Gyhoeddus a Materion Cyfansoddiadol at yr Ysgrifennydd Gwladol dros Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau a’r Gweinidog Cysylltiadau Rhynglywodraethol.
6.3 Gohebiaeth gan y Prif Weinidog: Pwyllgor Sefydlog Rhyngweinidogol
Nododd y Pwyllgor y llythyr a’r Datganiad Ysgrifenedig gan y Prif Weinidog.
6.4 Gohebiaeth gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Cyfarfod y Pwyllgor Sefydlog Rhyngweinidogol Cyllid
Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol.
6.5 Gohebiaeth gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd: Gorchymyn Bwrdd Datblygu Amaethyddiaeth a Garddwriaeth (Diwygio) 2022
Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd.
6.6 Gohebiaeth gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau a'r Gweinidog Cysylltiadau Rhynglywodraethol: Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol a phwerau cydredol sydd wedi'u cynnwys o fewn biliau Llywodraeth y DU
Nododd y Pwyllgor y llythyr gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau a’r Gweinidog Cysylltiadau Rhynglywodraethol.
6.7 Gohebiaeth gan Weinidog yr Economi: Cytundeb Masnach a Chydweithredu
Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Weinidog yr Economi.
6.8 Gohebiaeth gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Adolygiad Cysylltiadau Rhynglywodraethol, Deddf y Farchnad Fewnol, a Chonfensiwn Sewel
Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad.
6.9 Gohebiaeth gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Y Grŵp Rhyngweinidogol ar Etholiadau a Chofrestru
Nododd y Pwyllgor y llythyr a’r Datganiad Ysgrifenedig gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad.
7 Datganiadau ysgrifenedig o dan Reol Sefydlog 30C
7.1 WS-30C(6)007 - Rheoliadau Cynhyrchu Organig (Diwygio) 2022
Nododd y Pwyllgor y Datganiad Ysgrifenedig a’r sylwebaeth.
7.2 WS-30C(6)008 - Rheoliadau Mewnforio Anifeiliaid a Chynhyrchion Anifeiliaid a Gwledydd Cymeradwy (Diwygio) 2022
Nododd y Pwyllgor y Datganiad Ysgrifenedig a’r sylwebaeth.
8 Papurau i'w nodi
8.1 Gohebiaeth gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiadau Cyfnod 1 ar y Bil Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru)
Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg.
8.2 Gohebiaeth gan y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai: Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ar y Bil Diogelwch Adeiladau
Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai.
8.3 Gohebiaeth gan y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol: Profiadau o'r system cyfiawnder troseddol
Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol.
8.4 Ymateb Cynghrair Twristiaeth Cymru, UKHospitality Cymru a PASC UK i Orchymyn drafft Ardrethu Annomestig (Diffiniad o Eiddo Domestig) (Cymru) 2022
Nododd y Pwyllgor yr ymateb gan Gynghrair Twristiaeth Cymru, UKHospitality Cymru a PASC UK.
8.5 Gohebiaeth gan y Pwyllgor Cyllid: Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2023-24: Ymgysylltu
Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Pwyllgor Cyllid.
8.6 Adroddiad Llywodraeth Cymru: Ymateb deddfwriaethol Gweinidogion Cymru i bandemig y coronafeirws
Nododd y Pwyllgor Ddatganiad Ysgrifenedig ac adroddiad Llywodraeth Cymru.
8.7 Gohebiaeth gan yr Arglwydd Ganghellor a'r Ysgrifennydd Gwladol dros Gyfiawnder: Gwahoddiad i roi tystiolaeth i'r Pwyllgor
Nododd y Pwyllgor y llythyr gan yr Arglwydd Ganghellor a’r Ysgrifennydd Gwladol dros Gyfiawnder.
8.8 Gohebiaeth gan Gadeirydd y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol: Craffu blynyddol ar waith Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol
Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol.
8.9 Datganiad ysgrifenedig: Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU
Nododd y Pwyllgor y Datganiad Ysgrifenedig gan Weinidog yr Economi.
8.10Gohebiaeth gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Memorandwm Cysyniad Deddfwriaethol Atodol ar y Bil Etholiadau
Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad.
8.11Gohebiaeth gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Gwelliannau i Fil yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a’r Llysoedd
Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol.
8.12Gohebiaeth gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Bil Deddfau Trethi Cymru etc. (Pŵer i Addasu)
Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol.
9 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod
10 Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil Iaith Arwyddion Prydain - trafod yr adroddiad drafft
Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft a chytunodd arno yn amodol ar rai mân newidiadau.
11 Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm Rhif 4) y Bil Iechyd a Gofal - trafod y nodyn cyngor cyfreithiol a'r adroddiad drafft
Trafododd y Pwyllgor y nodyn cyngor cyfreithiol a chytunodd ar yr adroddiad drafft.
12 Blaenraglen waith
Bu’r Pwyllgor yn trafod ei flaenraglen waith.